Cenedlaetholdeb Catalanaidd

Gorymdaith yn ninas Barcelona, 18 Chwefror 2006.

Cenedlaetholdeb Catalanaidd, a elwir hefyd yn Catalanisme, yw'r symudiad gwleidyddol sy'n ystyried bod Catalwnia yn genedl sydd â hawl i annibyniaeth neu hunanlywodraeth. Coleddir yr ideoleg yma gan bleidiau adain-chwith, canol ac adain-dde.

Nid yw pob plaid genedlaethol yn hawlio annibyniaeth lwyr ar Sbaen; mae'r blaid Convergència Democràtica de Catalunya yn dadlau fod Catalwnia yn genedl sydd â'r hawl i benderfynu ei dyfodol ei hun, ond o blaid Sbaen ffederal yn hytrach nag annibyniaeth. Ar y llaw arall, mae'r Esquerra Republicana de Catalunya yn galw am annibyniaeth.

Pep Guardiola, Rheolwr CPD Manchester City yn gwisgo rhuban melyn yn symbol o Annibyniaeth catalwnia a'r gwleidyddion a garcharwyd gan Sbaen; 2018.

Ym marn y mwyafrif o'r pleidiau sy'n ceisio annibyniaeth, mae "Catalwnia" yn cynnwys nid yn unig Cymuned Ymreolaethol Catalwnia ond y tiriogaethau eraill lle siaredir Catalaneg, a elwir y Països Catalans ("gwledydd Catalanaidd), yn cynnwys y rhan fwyaf o'r Comunidad Valenciana, yr Ynysoedd Balearig, rhan o Aragón a Rosellón yn Ffrainc, a elwir yn Ogledd Catalwnia.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search